Cynllun Syml iawn i ddatrys yr Argyfwng Hinsawdd

Mae llawer o waith eisoes wedi cael ei wneud wrth baratoi adroddiadau diweddar fel y “Cynllun am Ddyfodol Ynni Adnewyddadwy Cymru” gan yr IWA (Sefydliad Materion Cymreig), ac adroddiad “Cymru Garbon Isel” Llywodraeth Cymru sy’n cynnwys 100 awgrymiad polisi. Ond maent oll yn rhoi’r cyfrifoldeb i ddatrys yr Argyfwng Hinsawdd ar gefnau busnesau, cymunedau ac unigolion. Gall y polisïau yma gweithio yn y tymor hir iawn, ond ni fyddent digon effeithiol nac yn digwydd digon cyflym i osgoi effeithiau mwyaf difrifol newid hinsawdd.

Yr unig ffordd yr allwn ni osgoi trychineb hinsawdd, yw i lywodraethau cymryd cyfrifoldeb ar unwaith ac i weithredu’n uniongyrchol.

Mae yna ffordd syml iawn yr allent wneud hyn.

Ar lefel lleol (Cynghorau Sir)

Mae gan Lywodraeth Leol Cymru gynlluniau pensiwn o £15biliwn, ac ar y mwyaf, wedi ei buddsoddi y tu allan i Gymru, ac yn cynnwys £1biliwn wedi ei fuddsoddi mewn cwmnïau tanwydd ffosil. Gall Cynghorau Sir ail fuddsoddi’r arian yma mewn i baneli solar a bateriau fase’n galluogi y gellir cyfanswm anghenion ynni Cymru cael ei gynhyrchu yn adnewyddadwy erbyn 2031. Hefyd, byddai’r incwm cyfredol 107 gwaith mwy nac mae’r gronfa pensiwn yn eu darparu ar hyn o bryd.

Ar lefel Cenedlaethol Cymreig

Fe all Llywodraeth Cymru buddsoddi’r £1.4 biliwn, nad sydd wedi ei ddyranni mwyach tuag at ffordd osgoi Casnewydd ar yr M4, yn uniongyrchol mewn i baneli solar a batrïau wrth gefn. Wedyn, gellir gwerthu’r trydan sydd wedi ei gynhyrchu yn syth i ddefnyddwyr. Y flwyddyn ganlynol, gellir buddsoddi’r elw mewn i fwy o baneli solar a batris. Trwy ailadrodd y broses hon pob blwyddyn, gellir cynyddu incwm a mwy o baneli.

Erbyn 2026 bydd anghenion trydanol presennol Cymru yn cael ei gynhyrchu’n adnewyddadwy.

Erbyn 2047 bydd cyfanswm anghenion ynni Cymru, gan gynnwys ynni trydanol, gwresogi a thrafnidiaeth yn cael ei gynhyrchu drwy dechnolegau adnewyddadwy.

Y newyddion gorau i Lywodraeth Cymru yw unwaith gyrhaeddir y capasiti cynhyrchu, mi fyddent yn derbyn £12 biliwn ychwanegol mewn refeniw drwy werthu trydan. Golyga hynny Mae hynny’n ¾ o gyllideb bresennol Llywodraeth Cymru yn ychwanegol.

Ar lefel y DU

Pob blwyddyn, rydym yn rhoi £10.5 biliwn trwy gymorthdaliadau i gwmnïau tanwydd ffosil. Mewn cyfnod o Argyfwng Hinsawdd, mae hi’n dramgwydd fod arian treth dalwyr yn cael ei ddefnyddio yn y math fodd. Pam nad felly, ailadrodd yr un broses - buddsoddi’r swm blynyddol hon mewn i baneli solar a bateriau ac ail-buddsoddwch y buddion?

Erbyn 2027, bydd bosib darparu holl anghenion trydanol presennol y DU yn adnewyddadwy.

Erbyn 2041 bydd cyfanswm anghenion ynni'r DU, gan gynnwys ynni trydanol, gwresogi, trafnidiaeth a hedfan yn gallu fod yn ynni adnewyddadwy.

Ar lefel Byd eang

Pob blwyddyn mae £500 biliwn o gymhorthdal yn cael eu rhoi i gwmnïau tanwydd ffosil.  Pam nad buddsoddi’r cyfanswm hon, pob blwyddyn, mewn i baneli solar a bateriau wrth gefn?

Erbyn 2032 gellid darparu gofynion trydan presennol yr holl fyd drwy ynni adnewyddadwy.

Erbyn 2045 gellid darparu cyfanswm gofynion ynni'r holl fyd yn adnewyddadwy, gan gynnwys ynni i wresogi, oeri, go gyfer trafnidiaeth, llongau ac awyrennau heb orfod buddsoddi unrhyw mwy o arian newydd.

Unwaith y gall ynni cael ei gynhyrchu yn adnewyddadwy, bydd popeth arall yn cwympo mewn i’w le drwy rymoedd y farchnad, wrth i danwydd ffosil esblygu i fod yn afresymol o uchel. Yn naturiol, mi fydd pobol yn newid arferion i ddefnyddio trydan fel ei ffynhonnell ynni er mwyn arbed arian.

Mae’r ffigyrau a’i defnyddir yma, yn defnyddio symiau cyllid presennol, felly nid oes angen mwy o fuddsoddiad gan lywodraethau. Os ein bod yn gallu dwyn perswâd ar lywodraethau i fuddsoddi arian ychwanegol ar ben ei chyllid ymrwymedig, gall y targedau uchod cael eu gwireddu hyd yn oed yn gynt.

Mi fydd yna herion. Y mwyaf ohonynt yw nad yw'r posibiliad o lywodraethau yn gwerthu ynni yn uniongyrchol yn cydymffurfio i “busnes fel yr arfer”, ac mi fyddent yn debygol o gael eu herlyn gan yr UE a Sefydliad Masnach y Byd (World Trade Organisation) am annhegwch cystadleuol. Ond gan mai Argyfwng Hinsawdd yw hon, gall llywodraethau defnyddio Pwerau Argyfwng i sicrhau bod gennym swm digonol o ynni adnewyddadwy mewn amser. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dangos parodrwydd i daclo “busnes fel yr arfer” drwy atal datblygiad ffordd osgoi Casnewydd ar yr M4.

Am yr adroddiad llawn sydd yn cynnwys cyfeirnodau a chwestiynau cyffredin a’u hatebion, pwyswch ar y ddolen hon.